Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 24 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
12:50 - 14:40 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Bruce West, Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Butel Ian Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire Jon Rae, CLLC Will McLean, Arweinydd Ymgysylltu a Phartneriaethau Strategol Cyngor Sir Fynwy Peter Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyngor Sir Fynwy Angela Scott, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Helen Finlayson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Bruce West, Pennaeth Cyllid Strategol, Cyngor Argyll a Bute, ac Ian Black, Pennaeth Cyllid a TG, Cyngor East Dunbartonshire, i’r cyfarfod drwy gynhadledd fideo.
2.2 Bu aelodau’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
2.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y cyfarfod.
3. Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Will McLean, Arweinydd Ymgysylltu a Phartneriaethau Strategol Cyngor Sir Fynwy; a Peter Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod.
3.2 Bu aelodau’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
3.3 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth am gwestiynau nas gofynnwyd yn y cyfarfod.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth a gafwyd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a chytunodd yr Aelodau i ymateb i’r llythyr, gan ofyn am eglurder ar y materion a ganlyn:
· y graddau y mae pwerau benthyg wedi’u cysylltu â phwerau trethu; ac
· effaith trosglwyddo’r risg mewn perthynas â phwerau codi trethi, ac yn benodol, yr effaith y gallai pwerau codi trethi ei gael ar bwerau benthyg yn y dyfodol.
4.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2012.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitem 6.
6. Trafod y dystiolaeth - Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei ymchwiliad i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod